Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 3 Tachwedd 2014 |
|
|||
Amser: |
14.30 - 16.00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(13) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn (Swyddog) Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 2) (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Gareth Price, Clerc y Bwrdd Taliadau (Swyddog) Sulafa Thomas, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Sandy Blair CBE DL, Cadeirydd, y Bwrdd Taliadau Stuart Castledine, y Bwrdd Taliadau Laura McAllister, y Bwrdd Taliadau
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi.
2 Adroddiad y Pwyllgor Cyllid a chymeradwyo’r gyllideb
Ystyriodd y Comisiynwyr adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn a chytunwyd ar ymatebion i’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.
Rhoddodd y Comisiwn sylw i’r argymhellion a wnaed i gyhoeddi dadansoddiad o’r cyllid a amcangyfrifir cyn yr etholiad, ac i gyhoeddi Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol drwy ychwanegu gwybodaeth at ddogfen y gyllideb.
Roedd y Comisiynwyr yn derbyn y pwynt a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn ag ystyried opsiynau ar gyfer defnyddio’r cymhorthdal teithio ar gyfer teithio ar y trên yn ogystal â theithio ar y bws, o ran ysgolion ac ymgysylltu â phobl ifanc. Gofynnwyd i swyddogion barhau i sicrhau bod y cymhorthdal ar gael ar draws pob ardal ddaearyddol o Gymru. Ychwanegwyd ymrwymiad ganddynt i gynnal adolygiad llawn cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys pob ymgysylltu â phobl ifanc, nid ymgysylltu drwy ysgolion yn unig.
Croesawodd y Comisiynwyr argymhelliad y Pwyllgor y dylid mynd ar drywydd cyfleoedd i brynu rhydd-ddaliad Tŷ Hywel, ac maent wedi ychwanegu pwynt yn hyn o beth at ddogfen y gyllideb.
Cytunodd y Comisiwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynllunio ar gyfer y Pumed Cynulliad, yn arbennig y gwaith cynllunio ar gyfer ymdrin â phwerau ariannol newydd, a gofynnodd i’r Prif Weithredwr ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid unwaith y bydd y cynlluniau wedi’u datblygu ymhellach.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb derfynol ar gyfer 2015-16, a chytunwyd i’w gosod ar 12 Tachwedd 2014, gyda’r bwriad bod dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd 2014. Byddai hyn yn sicrhau bod modd cynnwys ffigyrau cyllideb y Comisiwn yng nghynnig Cyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd ar gyfer mis Rhagfyr, yn unol â’r amserlen.
3 Trafodaeth gydag aelodau’r Bwrdd Taliadau
Cyfarfu’r Comisiwn yn ffurfiol am y tro cyntaf gydag aelodau o’r Bwrdd Taliadau yn dilyn cyfnewid llythyrau ynghylch gwaith y Bwrdd. Ymunodd Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd, Laura McAllister a Stuart Castledine â’r Comisiynwyr i drafod syniadau’r Comisiwn o ran y materion strategol sy’n ymwneud â her, maint a chymhlethdod y cyfrifoldebau sy’n cael eu hysgwyddo gan Aelodau’r Cynulliad. Blaenoriaeth y Comisiwn yw ystyried anghenion hirdymor y Cynulliad fel sefydliad democrataidd effeithiol, a sicrhau y gall Aelodau’r Cynulliad gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol.
Teimlai’r Comisiynwyr ei bod yn bwysig tynnu sylw aelodau’r Bwrdd at y materion hyn, gan y bydd y gwaith a wneir ganddynt yn chwarae rhan bwysig yng nghapasiti Aelodau’r Cynulliad i ymdrin â’r heriau hyn yn y dyfodol.
Dywedodd aelodau’r Bwrdd eu bod yn awyddus i gefnogi capasiti’r Aelodau, yn enwedig tra bod yr Aelodau o dan bwysau ychwanegol oherwydd maint bach y Cynulliad. Pwysleisiodd y Comisiynwyr mor bwysig oedd sicrhau bod hyblygrwydd ac eglurder yn y lwfansau a allai fod ar gael, ac roeddent yn cydnabod yr her o ganfod y cydbwysedd cywir. Roeddent hefyd yn rhoi pwyslais ar gyfleu gwybodaeth am newidiadau yn effeithiol i’r Aelodau.
Trafododd y Comisiynwyr ac aelodau’r Bwrdd gronfa ymgysylltu, a’r ystyriaethau a fyddai’n angenrheidiol pe bai ‘cynllun peilot’ yn cael ei sefydlu a’i gynnal.
Trafododd yr aelodau o’r ddau gorff y berthynas rhwng lwfansau cyfrifoldeb a hyfforddiant / datblygiad proffesiynol ar gyfer deiliaid swyddi, gan ddefnyddio cadeirio pwyllgorau fel enghraifft. Eu gobaith oedd, gyda’i gilydd, bod modd iddynt greu amgylchedd lle mae datblygiad proffesiynol parhaus yn cael ei ystyried yn normal ac yn berthnasol i bawb. Yn gysylltiedig â’r cynnig ynghylch ehangu cynllun prentisiaeth y Comisiwn, nododd y Comisiynwyr hefyd y posibilrwydd o neilltuo peth cyllid ar gyfer rolau intern gydag Aelodau’r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr ac aelodau’r Bwrdd Taliadau bod y drafodaeth wedi bod yn ddefnyddiol, a chytunwyd i gyfarfod eto.
4 Unrhyw Fusnes Arall
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 17 Tachwedd.
Bydd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys y newyddion diweddaraf am gyfieithu peirianyddol, Cofnod y Trafodion a’r adolygiad o’r cymorth i bwyllgorau. Bydd y Comisiwn hefyd yn ystyried goblygiadau cyfansoddiadol Silk 1 a 2.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2014